Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 7 Tachwedd 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:30 - 14:00 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: http://www.senedd.tv/archiveplayer.jsf?v=en_400000_07_11_2013&t=0&l=en http://www.senedd.tv/archiveplayer.jsf?v=en_400001_07_11_2013&t=0&l=en |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
David Rees (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Leighton Andrews Rebecca Evans Elin Jones Darren Millar Lynne Neagle Gwyn R Price Lindsay Whittle Kirsty Williams |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Kate Chamberlain, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru Mandy Collins, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru Alyson Thomas, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru Emma Coles, Llywodraeth Cymru David Pritchard, Llywodraeth Cymru Mark Drakeford, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Grant Duncan, Llywodraeth Cymru Janet Davies, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Llinos Madeley (Clerc) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar AC. Dirprwyodd Mohammad Asghar AC ar ei ran.
2 Ymchwiliad i waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru: Tystiolaeth gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
2.1 Ymatebodd cynrychiolwyr o Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i gwestiynau gan aelodau’r pwyllgor.
2.2 Nododd y tystion y byddent yn croesawu cyfle i ddychwelyd i siarad â’r Pwyllgor pan fo cynllun busnes yr Arolygiaeth ar gyfer y dyfodol ar gael.
3 Papur briffio ffeithiol ar y Papur Gwyn ar Ddyfodol Rheoleiddio ac Arolygu Gofal a Chymorth yng Nghymru
3.1 Cafodd yr aelodau bapur briffio ffeithiol ar y Papur Gwyn, Dyfodol Rheoleiddio ac Arolygu Gofal a Chymorth yng Nghymru.
4 Ymchwiliad i waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru: Tystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
4.1 Holodd y Pwyllgor y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch gwaith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.
4.2 Cytunodd y Gweinidog i ysgrifennu i’r Pwyllgor er mwyn egluro a yw rhaglen waith yr Arolygiaeth yn cael ei chymeradwyo gan un o’i gyd-Weinidogion.
5 Papurau i’w nodi
5.1 Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol diwygiedig ar y Bil Gofal - trefniadau cyfatebol ar gyfer awdurdodau lleol yn yr Alban
5.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
5.2 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: gwybodaeth ddilynol yn dilyn y cyfarfod ar 9 Hydref ynghylch gofal heb ei drefnu - bod yn barod ar gyfer gaeaf 2013/14
5.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
5.3 Llythyr gan Fwrdd Rhaglen Cynllun De Cymru: rhagor o wybodaeth ddilynol yn dilyn y cyfarfod ar 3 Hydref ynghylch ad-drefnu gwasanaethau byrddau iechyd lleol
5.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer eitemau 1 a 2 ar agenda’r cyfarfod ar 13 Tachwedd
6.1 Derbyniwyd y cynnig.
7 Trafod ymchwiliad arfaethedig y Pwyllgor i gaethiwed i feddyginiaethau a geir ar bresgripsiwn a dros y cownter
7.1 Trafododd y Pwyllgor yr ymchwiliad arfaethedig i gaethiwed i feddyginiaethau a geir ar bresgripsiwn a dros y cownter. Cytunodd yr aelodau i ohirio dechrau’r ymchwiliad tan fod y gwaith a amlinellir yn Gweithio Gyda’n gilydd i Leihau Niwed - Cynllun Cyflawni Camddefnyddio Sylweddau 2013-15 - y bwriedir iddo gael ei gyflawni erbyn mis Mawrth 2014 - wedi’i gwblhau.
8 Trafod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol: y Bil Gofal
8.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol ar y Bil Gofal a chytunodd i ystyried adroddiad drafft yn y cyfarfod nesaf ar 13 Tachwedd 2013.